1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2. “Fab dyn, cod alarnad am Tyrus.
3. Dywed wrth Tyrus sydd wrth fynedfa'r môr, marsiandwr y bobloedd ar lawer o ynysoedd, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Yr wyt ti, O Tyrus, yn dweud,“Yr wyf fi'n berffaith mewn prydferthwch.”
4. Y mae dy derfynau yng nghanol y moroedd;gwnaeth dy adeiladwyr dy brydferthwch yn berffaith.
5. Gwnaethant dy holl waith coed o binwydd Senir,a chymryd cedrwydd Lebanon i wneud hwylbren iti.
6. Gwnaethant dy rwyfau o dderw Basan,a'th fwrdd o binwydd goror Chittim,wedi ei addurno ag ifori.
7. Lliain wedi ei frodio o'r Aifft oedd dy hwyliau,ac yn gwneud baner iti;yr oedd dy gysgodlenni yn las a phorfforo ororau Elisa.
8. Gwŷr Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr,ac yr oedd ynot ti, O Tyrus, wŷr medrusâ'u llaw ar y llyw.
9. Yr oedd gwŷr profiadol a medrus o Gebalar dy fwrdd i gyweirio'r agennau;yr oedd holl longau'r môr a'u dynionyn dod atat i farchnata dy nwyddau.
10. Yr oedd gwŷr Persia, Lydia a Phutyn filwyr yn dy fyddin,yn crogi eu tarianau a'u helmedau ynot;ac yr oeddent yn dy wneud yn hardd.
11. Yr oedd gwŷr Arfad a Helech ar dy furiau o amgylch,a gwŷr Gammad yn dy dyrau;yr oeddent yn crogi eu tarianau ar dy furiau,ac yn gwneud dy brydferthwch yn berffaith.
12. “ ‘Yr oedd Tarsis yn marchnata gyda thi oherwydd dy holl gyfoeth, ac yn rhoi iti arian, haearn, alcam a phlwm yn gyfnewid am dy nwyddau.
13. Jafan, Tubal a Mesech oedd dy farsiandïwyr, ac yn cyfnewid caethweision a llestri pres yn dy farchnad.