33. Derbyn tâl y mae pob putain, ond rhoi tâl yr wyt ti i'th holl gariadon, gan eu llwgrwobrwyo i ddod atat o bob man i buteinio gyda thi.
34. Yr wyt yn wahanol i wragedd eraill yn dy buteindra; nid oes neb yn dy geisio di; yr wyt yn rhoi tâl yn lle derbyn tâl, a dyna'r gwahaniaeth.
35. “ ‘Felly, butain, gwrando ar air yr ARGLWYDD.
36. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am iti fod yn gwbl anllad, a dangos dy noethni wrth buteinio gyda'th gariadon, ac oherwydd dy holl eilunod ffiaidd, ac am iti roi iddynt waed dy blant,
37. felly, fe gasglaf ynghyd dy holl gariadon y cefaist bleser gyda hwy, y rhai yr oeddit yn eu caru a'r rhai yr oeddit yn eu casáu. Fe'u casglaf ynghyd yn dy erbyn o bob man, ac fe'th ddinoethaf o'u blaenau, ac fe welant dy holl noethni.
38. Rhof arnat gosb godinebwyr a rhai'n tywallt gwaed, a dwyn arnat waed llid ac eiddigedd.
39. A rhof di yn nwylo dy gariadon; bwriant i lawr dy lwyfan a dinistrio dy uchelfeydd, tynnant dy ddillad oddi amdanat, a chymryd dy dlysau hardd a'th adael yn llwm a noeth.
40. Dônt â thyrfa yn dy erbyn, ac fe'th labyddiant â cherrig a'th rwygo â'u cleddyfau.
41. Llosgant dy dai, a rhoi cosb arnat yng ngŵydd llawer o wragedd. Rhof ddiwedd ar dy buteindra, ac ni fyddi'n talu eto i'th gariadon.