2. Ceidw ymadroddion enwogion,gan dreiddio plygion astrus eu damhegion.
3. Fe ddwg i'r golau ystyron cudd y diarhebion,a daw'n gyfarwydd â holl ddirgeleddau'r damhegion.
4. Ymhlith mawrion y bydd yn gwasanaethu,ac yng ngŵydd llywodraethwyr y gwelir ef.Teithia mewn gwledydd estron,oherwydd cafodd brofiad o ddaioni a drygioni pobl.
5. Rhydd ei fryd ar godi'n forei droi at yr Arglwydd, ei Greawdwr,i ymbil ger bron y Goruchaf,gan agor ei enau mewn gweddi,ac erfyn am faddeuant ei bechodau.
6. Os ewyllysia'r Arglwydd mawr,llenwir ef ag ysbryd deallus;yna fe dywallt eiriau ei ddoethinebac offrymu diolch i'r Arglwydd mewn gweddi.
7. Fe geidw ei gyngor a'i wybodaeth ar lwybr union,a myfyria ar y pethau cudd a ŵyr.
8. Fe amlyga ddisgyblaeth ei addysg,ac yng nghyfraith cyfamod yr Arglwydd y bydd ei ymffrost.
9. Bydd llawer yn canmol ei ddeallusrwydd,na ddileir mohono byth;ni ddiflanna'r coffadwriaeth amdano,a bydd byw ei enw o genhedlaeth i genhedlaeth.
10. Bydd cenhedloedd yn traethu ei ddoethineb,a'r gynulleidfa'n canu ei glod.
11. Os caiff oes hir, bydd yn gadael enw sy'n rhagori ar fil,ac os â i'w orffwys yn gynnar, bydd hynny'n ddigon iddo.
12. Y mae gennyf eto fwy o feddyliau i'w traethu,oherwydd yr wyf mor llawn ohonynt â lleuad ganol mis.
13. Gwrandewch arnaf, chwi feibion sanctaidd, a blagurwchfel rhosyn a blannwyd ar lan afon,
14. yn perarogli fel thus,yn blodeuo fel y lili;taenwch eich persawr a chanwch fawl,bendithiwch yr Arglwydd am ei holl weithredoedd.
15. Mawrygwch ei enw ef,a diolchwch iddo, gan ei foliannu â chaneuon eich gwefusau ac â thelynau.Dyma a ddywedwch i leisio'ch diolchgarwch:
16. “Mor wych yw holl weithredoedd yr Arglwydd!Cyflawnir ei holl orchmynion yn eu pryd.”Ni ddylai neb ofyn, “Beth yw hyn?” neu, “Pam y mae hyn?”Oherwydd y mae pob gwybodaeth i'w cheisio yn ei hiawn bryd.
17. Wrth ei air ef safodd y dŵr yn bentwr,ac wrth orchymyn ei enau cronnodd y dyfroedd.
18. Ar ei archiad, fe gyflawnir y peth a fyn,ac ni all neb gyfyngu ar ei allu achubol ef.
19. Y mae gweithredoedd pob un yn hysbys iddo,ac nid oes modd cuddio dim rhag ei lygaid.
20. O dragwyddoldeb i dragwyddoldeb y mae ef yn gwylio,ac nid oes dim a all beri syndod iddo.
21. Ni ddylai neb ofyn, “Beth yw hyn?” neu, “Pam y mae hyn?”Oherwydd y mae popeth wedi ei greu at ei bwrpas ei hun.