13. Gwrandewch arnaf, chwi feibion sanctaidd, a blagurwchfel rhosyn a blannwyd ar lan afon,
14. yn perarogli fel thus,yn blodeuo fel y lili;taenwch eich persawr a chanwch fawl,bendithiwch yr Arglwydd am ei holl weithredoedd.
15. Mawrygwch ei enw ef,a diolchwch iddo, gan ei foliannu â chaneuon eich gwefusau ac â thelynau.Dyma a ddywedwch i leisio'ch diolchgarwch:
16. “Mor wych yw holl weithredoedd yr Arglwydd!Cyflawnir ei holl orchmynion yn eu pryd.”Ni ddylai neb ofyn, “Beth yw hyn?” neu, “Pam y mae hyn?”Oherwydd y mae pob gwybodaeth i'w cheisio yn ei hiawn bryd.
17. Wrth ei air ef safodd y dŵr yn bentwr,ac wrth orchymyn ei enau cronnodd y dyfroedd.
18. Ar ei archiad, fe gyflawnir y peth a fyn,ac ni all neb gyfyngu ar ei allu achubol ef.
19. Y mae gweithredoedd pob un yn hysbys iddo,ac nid oes modd cuddio dim rhag ei lygaid.
20. O dragwyddoldeb i dragwyddoldeb y mae ef yn gwylio,ac nid oes dim a all beri syndod iddo.
21. Ni ddylai neb ofyn, “Beth yw hyn?” neu, “Pam y mae hyn?”Oherwydd y mae popeth wedi ei greu at ei bwrpas ei hun.
22. Y mae ei fendith yn llifo fel afon,fel gorlif yn disychedu'r tir cras.