1. Pechodd llawer er mwyn elw;y mae'r sawl a fyn ymgyfoethogi yn barod i gau ei lygad.
2. Fel hoelen wedi ei hoelio rhwng cydiad meini,y mae pechod yn ymwthio rhwng prynu a gwerthu.
3. Oni lŷn rhywun yn frwd wrth ofn yr Arglwydd,buan y dymchwelir ei dŷ.
4. Wedi ysgwyd gogr, erys y gwehilion;felly y daw gwaethaf rhywun i'r wyneb wrth iddo ddadlau.
5. Y mae'r ffwrn yn profi llestri'r crochenydd,a cheir prawf ar rywun wrth iddo ymresymu.
6. Fel y mae ffrwyth pren yn dangos y driniaeth a gafodd,felly y mae mynegiant rhywun o'i feddyliau yn dangos ei ddiwylliant.
7. Paid â chanmol neb cyn ei glywed yn dadlau,oherwydd dyna'r prawf ar bawb.
8. O geisio cyfiawnder, fe'i cei,a'i wisgo fel gŵn ysblennydd.
9. Bydd adar yn nythu gyda'u tebyg,a bydd gwirionedd yn clwydo gyda'r rhai sy'n ei weithredu.
10. Fel y mae llew'n gwylio'i ysglyfaeth i'w ddal,felly y mae pechod yn gwylio drwgweithredwyr.
11. Traethu doethineb y bydd y duwiol bob amser,ond y mae'r ynfytyn mor gyfnewidiol â'r lleuad.
12. Gwylia dy gyfle i ddianc o gwmni'r diddeall,ond oeda'n hir yng nghwmni'r meddylgar.
13. Ffiaidd yw ymadroddion ffyliaid,a'u chwerthin yn faswedd pechadurus.
14. Y mae siarad un aml ei lwon yn codi gwallt y pen,a chweryla rhai felly'n cau clustiau.
15. Y mae cweryla'r beilchion yn peri tywallt gwaed,a'u difenwi ei gilydd yn merwino'r glust.