12. Y mae llygaid yr ARGLWYDD yn gwarchod deall,ond y mae ef yn dymchwel geiriau twyllwr.
13. Dywed y diog, “Y mae llew y tu allan;fe'm lleddir yn y stryd.”
14. Y mae genau'r wraig ddieithr fel pwll dwfn;y mae'r un a ddigiodd yr ARGLWYDD yn syrthio iddo.
15. Y mae ffolineb ynghlwm wrth feddwl plentyn,ond y mae gwialen disgyblaeth yn ei yrru oddi wrtho.
16. Y sawl sy'n gorthrymu'r tlawd i geisio elw iddo'i hun,ac yn rhoi i'r cyfoethog, bydd hwnnw'n diweddu mewn angen.