13. Paid â bod yn hoff o gysgu, rhag iti fynd yn dlawd;cadw dy lygad yn agored, a chei ddigon o fwyd.
14. “Gwael iawn,” meddai'r prynwr;ond wrth fynd ymaith, y mae'n canmol ei fargen.
15. Y mae digonedd o aur ac o emau,ond geiriau deallus yw'r trysor gwerthfawrocaf.
16. Cymer wisg y sawl sy'n mechnïo dros estron,a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn.
17. Melys i rywun yw bara a gafwyd trwy dwyll,ond yn y diwedd llenwir ei geg â graean.
18. Sicrheir cynlluniau trwy gyngor;rhaid trefnu'n ofalus ar gyfer rhyfel.
19. Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach;paid â chyfeillachu â'r llac ei dafod.
20. Os bydd rhywun yn melltithio ei dad a'i fam,diffoddir ei oleuni mewn tywyllwch dudew.
21. Os ceir etifeddiaeth sydyn yn y dechrau,ni bydd bendith ar ei diwedd.
22. Paid â dweud, “Talaf y pwyth yn ôl”;disgwyl wrth yr ARGLWYDD i achub dy gam.
23. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw amrywiaeth mewn pwysau,ac nid da ganddo gloriannau twyllodrus.
24. Yr ARGLWYDD sy'n rheoli camre pobl;sut y gall neb ddeall ei ffordd?
25. Gall rhywun fynd i fagl wrth gysegru'n fyrbwyll,ac yna dechrau ystyried ar ôl gwneud addunedau.
26. Y mae brenin doeth yn nithio'r drygionus,ac yn troi'r rhod yn eu herbyn.
27. Llewyrcha'r ARGLWYDD ar ysbryd pobl,i chwilio i ddyfnderau eu bod.
28. Y mae teyrngarwch a chywirdeb yn gwarchod y brenin,a diogelir ei orsedd gan deyrngarwch.