18. Ffolineb yw rhan y rhai gwirion,ond gwybodaeth yw coron y rhai call.
19. Ymgryma'r rhai drwg o flaen pobl dda,a'r drygionus wrth byrth y cyfiawn.
20. Caseir y tlawd hyd yn oed gan ei gydnabod,ond y mae digon o gyfeillion gan y cyfoethog.
21. Y mae'r un a ddirmyga'i gymydog yn pechu,ond dedwydd yw'r un sy'n garedig wrth yr anghenus.
22. Onid yw'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn cyfeiliorni,ond y rhai sy'n cynllunio da yn deyrngar a ffyddlon?
23. Ym mhob llafur y mae elw,ond y mae gwag-siarad yn arwain i angen.
24. Eu craffter yw coron y doeth,ond ffolineb yw addurn y ffyliaid.
25. Y mae tyst geirwir yn achub bywydau,ond y mae'r twyllwr yn pentyrru celwyddau.
26. Yn ofn yr ARGLWYDD y mae sicrwydd y cadarn,a bydd yn noddfa i'w blant.
27. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ffynnon fywioli arbed rhag maglau marwolaeth.
28. Yn amlder pobl y mae anrhydedd brenin;ond heb bobl, dinistrir llywodraethwr.
29. Y mae digon o ddeall gan yr amyneddgar,ond dyrchafu ffolineb a wna'r byr ei dymer.
30. Meddwl iach yw iechyd y corff,ond cancr i'r esgyrn yw cenfigen.
31. Y mae'r un sy'n gorthrymu'r tlawd yn amharchu ei Greawdwr,ond y sawl sy'n trugarhau wrth yr anghenus yn ei anrhydeddu.
32. Dymchwelir y drygionus gan ei ddrygioni ei hun,ond caiff y cyfiawn loches hyd yn oed wrth farw.