1. Y mae'r sawl sy'n caru disgyblaeth yn caru gwybodaeth,ond hurtyn sy'n casáu cerydd.
2. Y mae'r daionus yn ennill ffafr yr ARGLWYDD,ond condemnir y dichellgar.
3. Ni ddiogelir neb trwy ddrygioni,ac ni ddiwreiddir y cyfiawn.
4. Y mae gwraig fedrus yn goron i'w gŵr,ond un ddigywilydd fel pydredd yn ei esgyrn.
5. Y mae bwriadau'r cyfiawn yn gywir,ond cynlluniau'r drygionus yn dwyllodrus.
6. Cynllwyn i dywallt gwaed yw geiriau'r drygionus,ond y mae ymadroddion y cyfiawn yn eu gwaredu.
7. Dymchwelir y drygionus, a derfydd amdanynt,ond saif tŷ'r cyfiawn yn gadarn.
8. Canmolir rhywun ar sail ei ddeall,ond gwawdir y meddwl troëdig.
9. Gwell bod yn ddiymhongar ac yn ennill tamaid,na bod yn ymffrostgar a heb fwyd.
10. Y mae'r cyfiawn yn ystyriol o'i anifail,ond y mae'r drygionus yn ddidostur.