1. Hi yw llyfr gorchmynion Duw, a'r gyfraith sy'n aros yn dragwyddol. Bywyd fydd rhan pawb sy'n glynu wrthi, ond marw a wna'r rhai a gefna arni.
2. Dychwel, Jacob, ac ymafael ynddi. Rhodia i gyfeiriad ei hysblander yn llygad ei goleuni hi.
3. Paid â rhoi dy ogoniant i arall, na'th freintiau i genedl estron.
4. Gwyn ein byd, Israel, am ein bod yn gwybod y pethau sydd wrth fodd Duw.
5. Codwch eich calon, fy mhobl, chwi sy'n cadw coffadwriaeth Israel.
6. Nid i'ch difetha y gwerthwyd chwi i'r cenhedloedd, ond am i chwi gynhyrfu dicter Duw y'ch traddodwyd i ddwylo eich gelynion.
7. Cythruddo'ch Creawdwr a wnaethoch trwy offrymu i gythreuliaid ac nid i Dduw.
8. Anghofiasoch y Duw tragwyddol a'ch maethodd, a thristáu Jerwsalem, a'ch meithrinodd.
9. Oherwydd gwelodd hi'r dicter a ddaeth arnoch oddi wrth Dduw, a dywedodd, “Gwrandewch, chwi gymdogion Seion; dygodd Duw dristwch mawr arnaf.
10. Gwelais y caethiwed a ddug y Duw tragwyddol ar fy meibion a'm merched.
11. Meithrinais hwy mewn llawenydd, ond anfonais hwy i ffwrdd â dagrau a thristwch.