1. Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma haid o locustiaid yn codi ar ddechrau tyfiant yr adladd, sef y cynhaeaf ar ôl torri cnwd y brenin.
2. Pan oeddent yn gorffen bwyta gwellt y ddaear, dywedais,“O Arglwydd DDUW, maddau!Sut y saif Jacob,ac yntau mor fychan?”
3. Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn. “Ni fydd hyn,” medd yr ARGLWYDD.