1. Gwrandewch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn eich erbyn, bobl Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o'r Aifft:
2. “Chwi'n unig a adwaenaiso holl deuluoedd y ddaear;am hynny, fe'ch cosbaf chwiam eich holl gamweddau.”
3. A gerdda dau gyda'i gilyddheb wneud cytundeb?
4. A rua llew yn y goedwigpan fydd heb ysglyfaeth?A waedda'r llew ifanc o'i ffaupan fydd heb ddal dim?
5. A syrth aderyn ar y ddaearos nad oes magl iddo?A neidia'r groglath oddi ar y ddaearos nad yw wedi dal dim?
6. A genir utgorn yn y ddinasheb i'r bobl ddychryn?A ddaw trychineb i'r ddinasheb i'r ARGLWYDD ei anfon?
7. Ni wna'r Arglwydd DDUW ddimheb ddangos ei fwriad i'w weision, y proffwydi.
8. Rhuodd y llew;pwy nid ofna?Llefarodd yr Arglwydd DDUW;pwy all beidio â phroffwydo?
9. Cyhoeddwch wrth geyrydd Asyria,ac wrth geyrydd gwlad yr Aifft;dywedwch, “Ymgynullwch ar fynyddoedd Samaria,ac edrych ar y terfysgoedd mawr o'i mewn,ac ar y gorthrymderau sydd ynddi.”
10. “Ni wyddant sut i wneud yr hyn sy'n iawn,” medd yr ARGLWYDD.“Y maent yn pentyrru trais ac ysbail yn eu ceyrydd.”