1. Y trydydd dydd yr oeddwn yn eistedd dan dderwen,
2. a dyma lais yn dod allan o berth gyferbyn â mi, a dweud, “Esra, Esra!” Atebais innau, “Dyma fi, Arglwydd.” Codais ar fy nhraed, ac meddai ef wrthyf:
3. “Fe'm datguddiais fy hun yn eglur yn y berth, a bûm yn siarad â Moses, pan oedd fy mhobl yn gaethweision yn yr Aifft;
4. anfonais ef i arwain fy mhobl allan o'r Aifft, a dygais ef i fyny i Fynydd Sinai, a'i gadw yno gyda mi am ddyddiau lawer.
5. Mynegais iddo lawer o bethau rhyfeddol, gan ddangos iddo gyfrinachau'r oesau a diwedd yr amseroedd. Rhoddais orchymyn iddo fel hyn:
6. ‘Gwna'r geiriau hyn yn hysbys, a chadw'r lleill yn gyfrinach.’
7. Ac yn awr dyma fy ngorchymyn i ti:
8. cadw'n ddiogel yn dy galon yr arwyddion a ddangosais iti, y breuddwydion a gefaist, a'r dehongliadau a glywaist.
9. Oherwydd fe'th ddygir di ymaith o blith dynion, ac o hynny ymlaen byddi'n aros gyda'm mab i a chyda rhai tebyg i ti, hyd ddiwedd yr amseroedd.
10. Oherwydd y mae'r byd wedi colli ei ieuenctid, ac y mae'r amseroedd yn dechrau heneiddio.
11. Y mae oes y byd wedi ei rhannu'n ddeuddeg rhan, ac eisoes aeth naw o'r rhannau hynny heibio, a hanner y ddegfed ran;
12. nid oes ond dwy ran ohoni'n aros, ynghyd â hanner arall y ddegfed ran.
13. Yn awr, felly, gosod dy dŷ mewn trefn; rhybuddia dy bobl, rho gysur i'r rhai gostyngedig yn eu mysg, ac ymwâd bellach â'r bywyd llygradwy.
14. Bwrw ymaith oddi wrthyt feddyliau meidrol, a thafl i ffwrdd oddi wrthyt dy feichiau dynol;
15. yn awr diosg oddi amdanat dy natur wan, gosod o'r neilltu y pryderon sy'n pwyso drymaf arnat, a brysia i ffoi rhag yr amseroedd hyn.
16. Oherwydd er mor fawr y drygau a welaist eisoes, y mae rhai gwaeth i ddigwydd ar ôl hyn.
17. Oherwydd po fwyaf y bydd henaint yn gwanychu'r byd, amlaf y drygau a ddaw ar ei drigolion.
18. Bydd gwirionedd yn cilio draw, ac anwiredd yn agosáu. Oherwydd y mae'r eryr a welaist yn dy freuddwyd eisoes yn dod ar frys.”
19. Atebais innau fel hyn: “A gaf fi siarad yn dy wyddfod, Arglwydd? Dyma fi ar fin ymadael, yn unol â'th orchymyn; fe geryddaf fi y bobl sydd yn awr yn fyw, ond pwy sydd i rybuddio'r rhai a enir ar ôl hyn?