13. Pan weddïodd arno, trugarhaodd Duw wrtho; gwrandawodd ar ei weddi a dod ag ef yn ôl i Jerwsalem i'w frenhiniaeth. Yna gwybu Manasse mai'r ARGLWYDD oedd Dduw.
14. Ar ôl hyn adeiladodd fur allanol i Ddinas Dafydd yn y dyffryn i'r gorllewin o Gihon hyd at fynedfa Porth y Pysgod, ac amgylchu Offel a'i wneud yn uchel iawn. Gosododd hefyd swyddogion milwrol yn holl ddinasoedd caerog Jwda.
15. Tynnodd ymaith y duwiau dieithr a'r ddelw o dŷ'r ARGLWYDD, a'r holl allorau a adeiladodd ym mynydd tŷ'r ARGLWYDD ac yn Jerwsalem, a'u taflu allan o'r ddinas.
16. Atgyweiriodd allor yr ARGLWYDD, ac offrymodd arni heddoffrymau ac offrymau diolch a gorchymyn Jwda i wasanaethu'r ARGLWYDD, Duw Israel.
17. Er hynny, yr oedd y bobl yn dal i aberthu ar yr uchelfeydd, ond i'r ARGLWYDD eu Duw yn unig.
18. Am weddill hanes Manasse, ei weddi ar ei Dduw, a geiriau'r gweledyddion a fu'n siarad ag ef yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, y maent yng nghronicl brenhinoedd Israel.
19. Y mae ei weddi a'r ateb ffafriol a gafodd, a hanes ei holl bechod a'i gamwedd, a'r lleoedd yr adeiladodd uchelfeydd a gosod pyst Asera a cherfddelwau ynddynt cyn iddo ymostwng, wedi eu hysgrifennu yng nghronicl y gweledyddion.
20. A bu farw Manasse, a'i gladdu yn ei balas; a daeth ei fab Amon yn frenin yn ei le.
21. Dwy ar hugain oed oedd Amon pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddwy flynedd yn Jerwsalem.
22. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaeth ei dad Manasse. Aberthodd Amon i'r holl gerfddelwau a wnaeth ei dad, ac fe'u gwasanaethodd.
23. Ond nid ymostyngodd o flaen yr ARGLWYDD fel y gwnaeth ei dad Manasse; yr oedd ef, Amon, yn troseddu'n waeth.
24. Cynllwynodd ei weision yn ei erbyn, a'i ladd yn ei dŷ;
25. ond yna, lladdwyd pawb a fu'n cynllwyn yn erbyn y Brenin Amon gan bobl y wlad, a gwnaethant ei fab Joseia yn frenin yn ei le.