2. Ar hyd ei oes gwnaeth Jehoas yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr offeiriad Jehoiada wedi ei ddysgu.
3. Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.
4. Dywedodd Jehoas wrth yr offeiriaid, “Cymerwch yr holl arian cysegredig sy'n dod i dŷ'r ARGLWYDD, sef arian treth pob un yn ôl swm y trethiant ar gyfer ei deulu a hefyd yr holl arian sy'n dod i mewn yn wirfoddol ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD;
5. cymered yr offeiriaid hefyd o'r cyfraniadau a dderbyniant, ac atgyweirio pob agen ym muriau'r tŷ.”
6. Eto erbyn y drydedd flwyddyn ar hugain i'r Brenin Jehoas nid oedd yr offeiriaid wedi atgyweirio agennau'r tŷ;
7. a galwodd y Brenin Jehoas am yr archoffeiriad Jehoiada ac am yr offeiriaid, a dweud wrthynt, “Pam nad ydych wedi atgyweirio agennau'r tŷ? Yn awr, felly, nid ydych i dderbyn arian o'r cyfraniadau; y maent i'w rhoi at atgyweirio agennau'r tŷ.”
8. Cytunodd yr offeiriaid i beidio â derbyn arian gan y bobl i atgyweirio agennau'r tŷ.
9. A chymerodd yr offeiriad Jehoiada gist, a gwneud twll yn ei chaead a'i gosod yn ymyl yr allor, ar y dde wrth fynd i mewn i dŷ'r ARGLWYDD; ac yno y rhoddai'r offeiriaid oedd yn gwylio'r drws yr holl arian a ddygid i dŷ'r ARGLWYDD.
10. A phan welent fod llawer o arian yn y gist, byddai ysgrifennydd y brenin yn dod i fyny gyda'r archoffeiriad, yn eu rhoi mewn codau ac yna'n cyfrif yr arian a gafwyd yn nhŷ'r ARGLWYDD.
11. Ar ôl eu harchwilio, rhoddid yr arian i'r rhai a benodwyd i ofalu am y gwaith yn nhŷ'r ARGLWYDD; hwy oedd yn talu i'r seiri coed a'r adeiladwyr oedd yn gweithio ar dŷ'r ARGLWYDD,
12. hefyd i'r seiri maen a'r naddwyr cerrig, a hwy oedd yn prynu coed a cherrig nadd i atgyweirio agennau tŷ'r ARGLWYDD, ac yn gwneud pob taliad ynglŷn â diddosi'r tŷ.
13. Ni wnaed o'r arian a ddygwyd i dŷ'r ARGLWYDD gwpanau arian, saltringau, cawgiau, utgyrn, nac unrhyw offer aur nac arian yn nhŷ'r ARGLWYDD;
14. ond yn hytrach fe'u rhoed yn dâl i'r gweithwyr am atgyweirio tŷ'r ARGLWYDD.
15. Ac nid oeddent yn hawlio cyfrif oddi wrth y rhai oedd yn gofalu am y gwaith ac yn cael yr arian i dalu i'r gweithwyr, am eu bod yn gweithredu'n onest.
16. Ni ddefnyddid ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD arian yr offrwm dros gamwedd a phechod; eiddo'r offeiriaid oeddent hwy.
17. Yr adeg honno aeth Hasael brenin Syria i ryfel yn erbyn Gath, a'i chipio, ac yna rhoi ei fryd ar ymosod ar Jerwsalem.
18. A chymerodd Jehoas brenin Jwda yr holl roddion a gysegrodd ei ragflaenwyr Jehosaffat, Jehoram ac Ahaseia, brenhinoedd Jwda, a hefyd ei roddion ei hun a'r holl aur oedd ar gael yn nhrysorfa tŷ'r ARGLWYDD a'r palas, a'u hanfon at Hasael brenin Syria; troes yntau yn ôl oddi wrth Jerwsalem.
19. Am weddill hanes Jehoas, a'r cwbl a gyflawnodd, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
20. Gwnaeth ei weision gynllwyn yn erbyn Joas a'i ladd yn Beth-milo wrth riw Sila.