1. Bu farw Samuel, a daeth Israel gyfan ynghyd i alaru amdano a'i gladdu yn ei gartref yn Rama. Yna fe aeth Dafydd i ddiffeithwch Maon.
2. Yn Maon yr oedd dyn yn ffermio yng Ngharmel; yr oedd yn ŵr cyfoethog iawn, a chanddo dair mil o ddefaid a mil o eifr, ac yr oedd wrthi'n cneifio'i ddefaid yng Ngharmel.
3. Nabal oedd enw'r dyn, ac Abigail oedd enw ei wraig. Yr oedd hi'n ddynes ddeallus a golygus, ond yr oedd y gŵr—un o lwyth Caleb—yn galed ac anghwrtais.
4. Clywodd Dafydd yn y diffeithwch fod Nabal yn cneifio'i ddefaid,
5. ac anfonodd ddeg llanc a dweud wrthynt, “Ewch i fyny i Garmel, a mynd at Nabal a'i gyfarch yn f'enw;
6. a dywedwch fel hyn wrth fy mrawd, ‘Heddwch i ti ac i'th deulu a'th eiddo i gyd.
7. Clywais dy fod yn cneifio. Bu dy fugeiliaid gyda ni, ac nid ydym wedi eu cam-drin na pheri dim colled iddynt, yr holl adeg y buont yng Ngharmel.
8. Gofyn i'th lanciau, ac fe ddywedant wrthyt. Felly rho dderbyniad caredig i'm llanciau innau, oherwydd daethom ar ddiwrnod da; rho'r hyn sydd agosaf at dy law i'th weision ac i'th fab Dafydd.’ ”
9. Daeth llanciau Dafydd a dweud y geiriau hyn i gyd yn enw Dafydd.
10. Wedi iddynt orffen, atebodd Nabal a dweud wrth weision Dafydd, “Pwy yw Dafydd, a phwy yw mab Jesse? Y mae llawer o weision yn dianc oddi wrth eu meistri y dyddiau hyn.
11. A wyf fi i gymryd fy mara a'm dŵr a'r cig a leddais ar gyfer fy nghneifwyr, a'u rhoi i ddynion na wn o ble y maent?”
12. Troes llanciau Dafydd i ffwrdd, a dychwelyd at Ddafydd a dweud hyn i gyd wrtho.