12. Felly, wedi i Michal ollwng Dafydd i lawr drwy'r ffenestr, aeth yntau ar ffo a dianc.
13. Yna cymerodd Michal y teraffim a'u gosod yn y gwely, a rhoi clustog o flew geifr lle byddai'r pen, a thaenu dilledyn drosti.
14. Pan anfonodd Saul negeswyr i ddal Dafydd, dywedodd hi, “Y mae'n glaf.”
15. Ond anfonodd Saul y negeswyr yn ôl i chwilio am Ddafydd gyda'r gorchymyn, “Dewch ag ef ataf yn ei wely, imi ei ladd.”
16. Pan ddaeth y negeswyr, dyna lle'r oedd y teraffim yn y gwely, gyda chlustog o flew geifr wrth y pen.
17. Meddai Saul wrth Michal, “Pam y twyllaist fi fel hyn, a gollwng fy ngelyn yn rhydd i ddianc?” Atebodd Michal, “Ef a ddywedodd wrthyf, ‘Gollwng fi, neu mi'th laddaf.’ ”
18. Ffodd Dafydd a dianc i Rama at Samuel, ac adrodd wrtho'r cwbl a wnaeth Saul iddo. Yna aeth Samuel ac yntau, ac aros yn Naioth.
19. Mynegwyd i Saul, “Y mae Dafydd yn Naioth ger Rama.”
20. Anfonodd Saul negeswyr i ddal Dafydd, ond pan welsant dwr o broffwydi'n proffwydo, a Samuel yn sefyll yno'n bennaeth arnynt, disgynnodd ysbryd Duw arnynt ac aethant hwythau i broffwydo.