14. O'r Lefiaid: Semaia fab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari;
15. Bacbaccar, Heres, Galal, Mataneia fab Micha, fab Sichri, fab Asaff;
16. Obadeia fab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; Berecheia fab Asa, fab Elcana, oedd yn byw yn nhrefi'r Netoffathiaid.
17. O'r porthorion: Salum, Accub, Talmon, Ahiman, a'u brodyr; Salum oedd y pennaeth.
18. Hyd at yr amser hwnnw porthorion oeddent yng ngwersylloedd y Lefiaid wrth ymyl porth y brenin i'r dwyrain.
19. Salum fab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a'i frodyr y Corahiaid o dŷ ei dad, oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth o gadw trothwy'r babell, fel yr oedd eu tadau yn geidwaid y fynedfa i wersyll yr ARGLWYDD.
20. Phinees fab Eleasar oedd eu harolygwr, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef.
21. Sechareia fab Maselmeia oedd ceidwad drws pabell y cyfarfod.
22. Yr oedd cyfanswm y rhai oedd wedi eu dethol i fod yn borthorion wrth y trothwy yn ddau gant a deuddeg, wedi eu cofrestru yn ôl eu pentrefi. Dafydd a Samuel y gweledydd oedd wedi eu gosod yn eu swydd.
23. Yr oeddent hwy a'u meibion yn cadw gwyliadwriaeth wrth byrth tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r babell.
24. Yr oedd y porthorion i fod ar bedair ochr, y dwyrain, y gorllewin, y gogledd a'r de.