24. Ar ôl marw Hesron, priododd Caleb Effrata, gwraig ei dad Hesron, a hi oedd mam ei fab Ashur, tad Tecoa.
25. Meibion Jerahmeel, cyntafanedig Hesron: Ram yr hynaf, Buna, Oren, Osem, Aheia.
26. Yr oedd gan Jerahmeel wraig arall o'r enw Atara; hi oedd mam Onam.
27. Meibion Ram, cyntafanedig Jerahmeel: Maas, Jamin, Ecer.
28. Meibion Onam: Sammai a Jada. Meibion Sammai: Nadab ac Abisur.
29. Enw gwraig Abisur oedd Abihail; hi oedd mam Aban a Molid.
30. Meibion Nadab: Seled ac Appaim; a bu farw Seled yn ddi-blant.
31. Mab Appaim: Isi. Mab Isi: Sesan. Mab Sesan: Alai.