7. Yna fe ymsefydlodd Dafydd yn y gaer, ac am hynny fe'i gelwir yn Ddinas Dafydd.
8. Adeiladodd y ddinas oddi amgylch o'r Milo yn gylch cyfan, tra oedd Joab yn adnewyddu gweddill y ddinas.
9. Cynyddodd Dafydd fwyfwy oherwydd bod ARGLWYDD y Lluoedd gydag ef.
10. Dyma benaethiaid Dafydd, a aeth yn fwy a mwy nerthol gydag ef yn ystod ei deyrnasiad, ac a ymunodd gyda holl Israel i'w wneud ef yn frenin ar Israel yn ôl gair yr ARGLWYDD.
11. Dyma restr y gwroniaid oedd gan Ddafydd. Jasobeam fab Hachmoni oedd capten y Deg ar Hugain; chwifiodd ef ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben tri chant o wŷr a laddodd ar un tro.
12. Y nesaf ato ef ymysg y tri gwron oedd Eleasar fab Dodo, yr Ahohiad;
13. bu ef gyda Dafydd yn Pasdammim, lle'r oedd rhandir yn llawn ffacbys, pan ymgasglodd y Philistiaid yno i ryfel ac y ffodd y bobl rhagddynt.
14. Ond daliodd ef ei dir yng nghanol y llain, a'i amddiffyn a lladd y Philistiaid; a rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr.
15. Aeth tri o'r Deg ar Hugain o benaethiaid i lawr at Ddafydd i'r graig ger ogof Adulam, pan oedd mintai o Philistiaid yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim.
16. Yr oedd Dafydd ar y pryd yn y gaer, a garsiwn y Philistiaid ym Methlehem.
17. Cododd blys ar Ddafydd ac meddai, “O na chawn ddiod o ddŵr o bydew Bethlehem, sydd ger y porth!”
18. Ar hynny, rhuthrodd y tri trwy wersyll y Philistiaid, codi dŵr o bydew Bethlehem gerllaw'r porth, a'i gludo'n ôl at Ddafydd. Eto, ni fynnai ef ei yfed, a thywalltodd ef yn offrwm i'r ARGLWYDD,