1. Ar ôl hyn digwyddodd fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliad yn Jesreel ar gwr palas Ahab brenin Samaria.
2. A dywedodd Ahab wrth Naboth, “Rho dy winllan i mi i fod yn ardd lysiau, gan ei bod mor agos i'm tŷ; a rhof iti'n gyfnewid winllan well na hi. Neu, os yw'n well gennyt, rhof iti ei gwerth mewn arian.”
3. Dywedodd Naboth wrth Ahab, “Yr ARGLWYDD a'm gwaredo rhag rhoi i ti etifeddiaeth fy hynafiaid.”
4. Dychwelodd Ahab i'w dŷ yn ddigalon a dig am i Naboth y Jesreeliad ateb, “Ni roddaf iti etifeddiaeth fy hynafiaid.” Bwriodd ei hun ar ei wely, a throi ei wyneb draw a gwrthod bwyta.
5. Daeth ei wraig Jesebel ato a gofyn iddo, “Pam yr wyt yn ddi-hwyl dy ysbryd ac yn gwrthod bwyta?”
6. Atebodd yntau, “Dywedais wrth Naboth y Jesreeliad, ‘Rho dy winllan i mi am arian; neu, os dewisi, rhof iti winllan yn ei lle.’ Ac atebodd, ‘Ni roddaf fy ngwinllan iti.’ ”
7. A dywedodd Jesebel wrtho, “Dangos yn awr mai ti yw'r brenin yn Israel. Cod, bwyta, cod dy galon, fe roddaf fi winllan Naboth y Jesreeliad iti.”
8. Ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab, a'u selio â'i sêl, a'u hanfon at yr henuriaid a'r uchelwyr oedd yn byw yn yr un ddinas â Naboth.
9. Yn y llythyrau yr oedd wedi ysgrifennu, “Cyhoeddwch ympryd, a gosodwch Naboth i fyny o flaen y bobl,
10. a dau ddihiryn i dystio yn ei erbyn, ‘Yr wyt ti wedi melltithio Duw a'r brenin.’ Yna ewch ag ef allan a'i labyddio'n gelain.”
11. A gwnaed â Naboth gan yr henuriaid a'r uchelwyr oedd yn byw yn yr un ddinas ag ef yn union fel y gorchmynnodd Jesebel yn y llythyrau a ysgrifennodd atynt.
12. Wedi cyhoeddi ympryd, gosodasant Naboth i fyny o flaen y bobl,
13. a daeth y ddau ddihiryn ac eistedd o'i flaen, a thystio yn erbyn Naboth gerbron y bobl a dweud, “Y mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin.” Aed ag ef y tu allan i'r ddinas a'i labyddio â cherrig nes iddo farw.
14. Yna anfonasant neges at Jesebel: “Mae Naboth wedi ei labyddio ac wedi marw.”