9. Am hynny tra-dyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo'r enw sydd goruwch pob enw,
10. fel wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear,
11. ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad.
12. Gan hynny, fy nghyfeillion annwyl, fel y buoch bob amser yn ufudd, felly yn awr, nid yn unig fel pe bawn yn bresennol, ond yn fwy o lawer gan fy mod yn absennol, gweithredwch, mewn ofn a dychryn, yr iachawdwriaeth sy'n eiddo ichwi;
13. oblegid Duw yw'r un sydd yn gweithio ynoch i beri ichwi ewyllysio a gweithredu i'w amcanion daionus ef.
14. Gwnewch bopeth heb rwgnach nac ymryson;
15. byddwch yn ddi-fai a diddrwg, yn blant di-nam i Dduw yng nghanol cenhedlaeth wyrgam a gwrthnysig, yn disgleirio yn eu plith fel goleuadau yn y byd,
16. yn cyflwyno gair y bywyd. Felly byddwch yn destun ymffrost i mi yn Nydd Crist, na fu imi redeg y ras yn ofer na llafurio yn ofer.
17. Ond os tywelltir fy mywyd i yn ddiodoffrwm ac yn aberth er mwyn eich ffydd chwi, yr wyf yn llawen, ac yn cydlawenhau â chwi i gyd.
18. Yn yr un modd byddwch chwithau'n llawen, a chydlawenhewch â mi.
19. Ond yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus atoch ar fyrder, er mwyn imi gael fy nghalonogi o wybod am eich amgylchiadau chwi.