12. Ond caiff plant y deyrnas eu bwrw allan i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.”
13. A dywedodd Iesu wrth y canwriad, “Dos ymaith; boed iti fel y credaist.” Ac fe iachawyd ei was y munud hwnnw.
14. Pan ddaeth i dŷ Pedr, gwelodd Iesu ei fam-yng-nghyfraith ef yn gorwedd yn wael dan dwymyn.
15. Fe gyffyrddodd â'i llaw, a gadawodd y dwymyn hi, ac fe gododd a dechrau gweini arno.
16. Gyda'r nos daethant â llawer oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid ato, ac fe fwriodd allan yr ysbrydion â'i air, ac iacháu pawb oedd yn glaf;
17. fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd:“Ef a gymerodd ein gwendidauac a ddug ymaith ein clefydau.”
18. Pan welodd Iesu dyrfa o'i amgylch, rhoddodd orchymyn i groesi i'r ochr draw.
19. Daeth un o'r ysgrifenyddion a dweud wrtho, “Athro, canlynaf di lle bynnag yr ei.”
20. Meddai Iesu wrtho, “Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr.”
21. Dywedodd un arall o'i ddisgyblion wrtho, “Arglwydd, caniatâ imi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad.”
22. Ond meddai Iesu wrtho, “Canlyn fi, a gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain.”