1. Pan welodd Iesu y tyrfaoedd, aeth i fyny'r mynydd, ac wedi iddo eistedd i lawr daeth ei ddisgyblion ato.
2. Dechreuodd eu hannerch a'u dysgu fel hyn:
3. “Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd,oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
4. Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru,oherwydd cânt hwy eu cysuro.
5. Gwyn eu byd y rhai addfwyn,oherwydd cânt hwy etifeddu'r ddaear.
6. Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder,oherwydd cânt hwy eu digon.
7. Gwyn eu byd y rhai trugarog,oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd.
8. Gwyn eu byd y rhai pur eu calon,oherwydd cânt hwy weld Duw.
9. Gwyn eu byd y tangnefeddwyr,oherwydd cânt hwy eu galw'n blant i Dduw.
10. Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder,oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
11. “Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a'ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o'm hachos i.
12. Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd; felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o'ch blaen chwi.