5. Ond yr ydych chwi'n dweud, ‘Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, “Offrwm i Dduw yw beth bynnag y gallasit ei dderbyn yn gymorth gennyf fi”, ni chaiff anrhydeddu ei dad.’
6. Ac yr ydych wedi dirymu gair Duw er mwyn eich traddodiad chwi.
7. Ragrithwyr, da y proffwydodd Eseia amdanoch:
8. “ ‘Y mae'r bobl hyn yn fy anrhydeddu â'u gwefusau,ond y mae eu calon ymhell oddi wrthyf;
9. yn ofer y maent yn fy addoli,gan ddysgu gorchmynion dynol fel athrawiaethau.’ ”
10. Galwodd y dyrfa ato a dywedodd wrthynt, “Gwrandewch a deallwch.
11. Nid yr hyn sy'n mynd i mewn i enau rhywun sy'n ei halogi, ond yr hyn sy'n dod allan o'i enau, dyna sy'n halogi rhywun.”
12. Yna daeth ei ddisgyblion a dweud wrtho, “A wyddost fod y Phariseaid wedi eu tramgwyddo wrth glywed dy eiriau?”
13. Atebodd yntau, “Pob planhigyn na phlannodd fy Nhad nefol, fe'i diwreiddir.
14. Gadewch iddynt; arweinwyr dall i ddeillion ydynt. Os bydd rhywun dall yn arwain rhywun dall, bydd y ddau yn syrthio i bydew.”
15. Dywedodd Pedr wrtho, “Eglura'r ddameg hon inni.”
16. Meddai Iesu, “A ydych chwithau'n dal mor ddiddeall?
17. Oni welwch fod popeth sy'n mynd i mewn i'r genau yn mynd i'r cylla ac yn cael ei yrru allan i'r geudy?
18. Ond y mae'r pethau sy'n dod allan o'r genau yn dod o'r galon, a dyna'r pethau sy'n halogi rhywun.
19. Oherwydd o'r galon y daw cynllunio drygionus, llofruddio, godinebu, puteinio, lladrata, camdystiolaethu, a chablu.
20. Dyma'r pethau sy'n halogi rhywun; ond bwyta â dwylo heb eu golchi, nid yw hynny'n halogi neb.”