56. dyma'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn dod â gwraig ato oedd wedi ei dal mewn godineb, a'i rhoi i sefyll yn y canol.
57. “Athro,” meddent wrtho, “y mae'r wraig hon wedi ei dal yn y weithred o odinebu.
58. Gorchmynnodd Moses yn y Gyfraith i ni labyddio gwragedd o'r fath. Beth sydd gennyt ti i'w ddweud?”
59. Dweud hyn yr oeddent er mwyn rhoi prawf arno, a chael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn. Plygodd Iesu i lawr ac ysgrifennu ar y llawr â'i fys.
60. Ond gan eu bod yn dal ati i ofyn y cwestiwn iddo, ymsythodd ac meddai wrthynt, “Pwy bynnag ohonoch sy'n ddibechod, gadewch i hwnnw fod yn gyntaf i daflu carreg ati.”
61. Yna plygodd eto ac ysgrifennu ar y llawr.
62. A dechreuodd y rhai oedd wedi clywed fynd allan, un ar ôl y llall, y rhai hynaf yn gyntaf, nes i Iesu gael ei adael ar ei ben ei hun, a'r wraig yno yn y canol.
63. Ymsythodd Iesu a gofyn iddi, “Wraig, ble maent? Onid oes neb wedi dy gondemnio?”