41. Yna dechreuodd yr Iddewon rwgnach amdano oherwydd iddo ddweud, “Myfi yw'r bara a ddisgynnodd o'r nef.”
42. “Onid hwn,” meddent, “yw Iesu fab Joseff? Yr ydym ni'n adnabod ei dad a'i fam. Sut y gall ef ddweud yn awr, ‘Yr wyf wedi disgyn o'r nef’?”
43. Atebodd Iesu hwy, “Peidiwch â grwgnach ymhlith eich gilydd.
44. Ni all neb ddod ataf fi heb i'r Tad a'm hanfonodd i ei dynnu; a byddaf fi'n ei atgyfodi yn y dydd olaf.
45. Y mae'n ysgrifenedig yn y proffwydi: ‘Fe gânt oll eu dysgu gan Dduw.’ Y mae pob un a wrandawodd ar y Tad ac a ddysgodd ganddo yn dod ataf fi.