6. Y mae gan y rhain awdurdod i gau'r nefoedd fel na bydd i law syrthio yn ystod dyddiau eu proffwydo, ac y mae ganddynt awdurdod ar y dyfroedd i'w troi'n waed ac i daro'r ddaear â phob pla mor aml ag y mynnant.
7. Wedi iddynt orffen eu tystiolaeth, bydd y bwystfil sy'n codi o'r dyfnder yn rhyfela yn eu herbyn, yn eu gorchfygu a'u lladd.
8. Bydd eu cyrff yn strydoedd y ddinas fawr a elwir yn ffigurol yn Sodom a'r Aifft; yno hefyd y croeshoeliwyd eu Harglwydd.
9. Am dri diwrnod a hanner, bydd rhai o blith pobloedd a llwythau ac ieithoedd a chenhedloedd yn edrych ar eu cyrff ac yn gwrthod eu rhoi mewn bedd.
10. A llawenha trigolion y ddaear trostynt a gorfoleddant, gan anfon rhoddion i'w gilydd; oherwydd bu'r ddau broffwyd hyn yn boenedigaeth i drigolion y ddaear.
11. Ond wedi'r tri diwrnod a hanner, daeth anadl einioes oddi wrth Dduw i mewn iddynt; safasant ar eu traed, a daeth ofn mawr ar y rhai oedd yn eu gwylio.
12. Yna clywsant lais uchel o'r nef yn dweud wrthynt, “Dewch i fyny yma.” Ac aethant i fyny i'r nef mewn cwmwl, a'u gelynion yn eu gwylio.
13. Yr awr honno bu daeargryn mawr, a syrthiodd y ddegfed ran o'r ddinas. Lladdwyd saith mil o bobl yn y daeargryn, a brawychwyd y gweddill a rhoesant ogoniant i Dduw'r nef.
14. Aeth yr ail wae heibio; wele'r trydydd gwae yn dod ar fyrder.
15. Seiniodd y seithfed angel ei utgorn. Yna bu lleisiau uchel yn y nef yn dweud:“Aeth brenhiniaeth y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef,a bydd yn teyrnasu byth bythoedd.”
16. A dyma'r pedwar henuriad ar hugain, sy'n eistedd ar eu gorseddau gerbron Duw, yn syrthio ar eu hwynebau ac yn addoli Duw
17. gan ddweud:“Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw hollalluog,yr hwn sydd a'r hwn oedd,am iti feddiannu dy allu mawra dechrau teyrnasu.
18. Llidiodd y cenhedloedd,a daeth dy ddigofaintac amser barnu'r meirw,a rhoi eu gwobr i'th weision y proffwydi,ac i'r saint ac i'r rhai sy'n ofni dy enw,yn fach a mawr,yr amser i ddinistrio'r rhai sy'n dinistrio'r ddaear.”
19. Agorwyd teml Duw yn y nef, a gwelwyd arch ei gyfamod yn ei deml ef; yna bu fflachiadau mellt a sŵn taranau a daeargryn a chenllysg mawr.