22. Yr oedd y dyn y gwnaethpwyd y wyrth iachaol hon arno dros ddeugain mlwydd oed.
23. Wedi eu gollwng, aethant at eu pobl eu hunain ac adrodd y cyfan yr oedd y prif offeiriaid a'r henuriaid wedi ei ddweud wrthynt.
24. Wedi clywed, codasant hwythau eu llef yn unfryd at Dduw: “O Benllywydd, tydi a wnaeth y nef a'r ddaear a'r môr a phob peth sydd ynddynt,
25. ac a ddywedodd drwy'r Ysbryd Glân yng ngenau Dafydd dy was, ein tad ni:“ ‘Pam y terfysgodd y Cenhedloeddac y cynlluniodd y bobloedd bethau ofer?
26. Safodd brenhinoedd y ddaear,ac ymgasglodd y llywodraethwyr ynghydyn erbyn yr Arglwydd ac yn erbyn ei Feseia ef.’
27. “Canys yn y ddinas hon yn wir ymgasglodd yn erbyn dy Was sanctaidd, Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Pontius Pilat ynghyd â'r Cenhedloedd a phobloedd Israel,
28. i wneud yr holl bethau y rhagluniodd dy law a'th gyngor di iddynt ddod.
29. Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion, a dyro i'th weision lefaru dy air â phob hyder,
30. ac estyn dithau dy law i beri iachâd ac arwyddion a rhyfeddodau drwy enw dy Was sanctaidd, Iesu.”
31. Ac wedi iddynt weddïo, ysgydwyd y lle yr oeddent wedi ymgynnull ynddo, a llanwyd hwy oll â'r Ysbryd Glân, a llefarasant air Duw yn hy.
32. Yr oedd y lliaws credinwyr o un galon ac enaid, ac ni fyddai neb yn dweud am ddim o'i feddiannau mai ei eiddo ef ei hun ydoedd, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin.