6. “Ond pan oeddwn ar fy nhaith ac yn agosáu at Ddamascus, yn sydyn tua chanol dydd fe fflachiodd goleuni mawr o'r nef o'm hamgylch.
7. Syrthiais ar y ddaear, a chlywais lais yn dweud wrthyf, ‘Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i?’
8. Atebais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd wrthyf, ‘Iesu o Nasareth wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.’
9. Gwelodd y rhai oedd gyda mi y goleuni, ond ni chlywsant lais y sawl oedd yn llefaru wrthyf.
10. A dywedais, ‘Beth a wnaf, Arglwydd?’ Dywedodd yr Arglwydd wrthyf, ‘Cod a dos i Ddamascus, ac yno fe ddywedir wrthyt bopeth yr ordeiniwyd iti ei wneud.’
11. Gan nad oeddwn yn gweld dim oherwydd disgleirdeb y goleuni hwnnw, fe'm harweiniwyd gerfydd fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, a deuthum i Ddamascus.
12. “Daeth rhyw Ananias ataf, gŵr duwiol yn ôl y Gyfraith, a gair da iddo gan yr holl Iddewon oedd yn byw yno.
13. Safodd hwn yn f'ymyl a dywedodd wrthyf, ‘Y brawd Saul, derbyn dy olwg yn ôl.’ Edrychais innau arno a derbyn fy ngolwg yn ôl y munud hwnnw.
14. A dywedodd yntau: ‘Y mae Duw ein tadau wedi dy benodi di i wybod ei ewyllys, ac i weld yr Un Cyfiawn a chlywed llais o'i enau ef;
15. oherwydd fe fyddi di'n dyst iddo, wrth yr holl ddynolryw, o'r hyn yr wyt wedi ei weld a'i glywed.
16. Ac yn awr, pam yr wyt yn oedi? Tyrd i gael dy fedyddio a chael golchi ymaith dy bechodau, gan alw ar ei enw ef.’
17. “Wedi imi ddychwelyd i Jerwsalem, dyma a ddigwyddodd pan oeddwn yn gweddïo yn y deml: euthum i lesmair,
18. a'i weld ef yn dweud wrthyf, ‘Brysia ar unwaith allan o Jerwsalem, oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi.’