1. Dyma air i'w gredu: “Pwy bynnag sydd â'i fryd ar swydd arolygydd, y mae'n chwennych gwaith rhagorol.”
2. Felly, rhaid i arolygydd fod heb nam ar ei gymeriad, yn ŵr i un wraig, yn ddyn sobr, disgybledig, anrhydeddus, lletygar, ac yn athro da.
3. Rhaid iddo beidio â bod yn rhy hoff o win, nac yn rhy barod i daro. I'r gwrthwyneb, dylai fod yn ystyriol a heddychlon a diariangar.
4. Dylai fod yn un a chanddo reolaeth dda ar ei deulu, ac yn cadw ei blant yn ufudd, â phob gwedduster.
5. Os nad yw rhywun yn medru rheoli ei deulu ei hun, sut y mae'n mynd i ofalu am eglwys Dduw?
6. Rhaid iddo beidio â bod yn newydd i'r ffydd, rhag iddo droi'n falch a chwympo dan y condemniad a gafodd y diafol.
7. A dylai fod yn un â gair da iddo gan y byd oddi allan, rhag iddo gwympo i waradwydd a chael ei ddal ym magl y diafol.
8. Yn yr un modd, rhaid i ddiaconiaid ennyn parch; nid yn ddauwynebog, nac yn drachwantus am win, nac yn chwennych elw anonest.