4. Wrth ddod ato ef, y maen bywiol, gwrthodedig gan bobl ond etholedig a chlodfawr gan Dduw,
5. yr ydych chwithau hefyd, fel meini bywiol, yn cael eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, i fod yn offeiriadaeth sanctaidd, er mwyn offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.
6. Oherwydd y mae'n sefyll yn yr Ysgrythur:“Wele fi'n gosod maen yn Seion,conglfaen etholedig a chlodfawr,a'r hwn sy'n credu ynddo, ni chywilyddir byth mohono.”
7. Y mae ei glod, gan hynny, yn eiddoch chwi, y credinwyr; ond i'r anghredinwyr,“Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,hwn a ddaeth yn faen y gongl”,
8. a hefyd,“Maen tramgwydd,a chraig rhwystr.”Y maent yn tramgwyddo wrth anufuddhau i'r gair; dyma'r dynged a osodwyd iddynt.
9. Ond yr ydych chwi yn hil etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl sanctaidd, yn bobl o'r eiddo Duw ei hun, i hysbysu gweithredoedd ardderchog yr Un a'ch galwodd chwi allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef:
10. “A chwi gynt heb fod yn bobl,yr ydych yn awr yn bobl Dduw;a chwi gynt heb dderbyn trugaredd,yr ydych yn awr yn rhai a dderbyniodd drugaredd.”