10. am iddynt beidio â chadw cyfamod Duw,a gwrthod rhodio yn ei gyfraith;
11. am iddynt anghofio ei weithredoedda'r rhyfeddodau a ddangosodd iddynt.
12. Gwnaeth bethau rhyfeddol yng ngŵydd eu hynafiaidyng ngwlad yr Aifft, yn nhir Soan;
13. rhannodd y môr a'u dwyn trwyddo,a gwneud i'r dŵr sefyll fel argae.
14. Arweiniodd hwy â chwmwl y dydd,a thrwy'r nos â thân disglair.
15. Holltodd greigiau yn yr anialwch,a gwneud iddynt yfed o'r dyfroedd di-baid;
16. dygodd ffrydiau allan o graig,a pheri i ddŵr lifo fel afonydd.
17. Ond yr oeddent yn dal i bechu yn ei erbyn,ac i herio'r Goruchaf yn yr anialwch,
18. a rhoi prawf ar Dduw yn eu calonnautrwy ofyn bwyd yn ôl eu blys.
19. Bu iddynt lefaru yn erbyn Duw a dweud,“A all Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
20. Y mae'n wir iddo daro'r graig ac i ddŵr bistyllio,ac i afonydd lifo,ond a yw'n medru rhoi bara hefyd,ac yn medru paratoi cig i'w bobl?”
21. Felly, pan glywodd yr ARGLWYDD hyn, digiodd;cyneuwyd tân yn erbyn Jacob,a chododd llid yn erbyn Israel,
22. am nad oeddent yn credu yn Nuw,nac yn ymddiried yn ei waredigaeth.