22. Dywedodd yr Arglwydd, “Dof â hwy'n ôl o Basan,dof â hwy'n ôl o waelodion y môr,
23. er mwyn iti drochi dy droed mewn gwaed,ac i dafodau dy gŵn gael eu cyfran o'r gelynion.”
24. Gwelir dy orymdeithiau, O Dduw,gorymdeithiau fy Nuw, fy Mrenin, i'r cysegr—
25. y cantorion ar y blaen a'r offerynwyr yn dilyn,a rhyngddynt forynion yn canu tympanau.
26. Yn y gynulleidfa y maent yn bendithio Duw,a'r ARGLWYDD yng nghynulliad Israel.
27. Yno y mae Benjamin fychan yn eu harwain,a thyrfa tywysogion Jwda,tywysogion Sabulon a thywysogion Nafftali.
28. O Dduw, dangos dy rym,y grym, O Dduw, y buost yn ei weithredu drosom.
29. O achos dy deml yn Jerwsalemdaw brenhinoedd ag anrhegion i ti.
30. Cerydda anifeiliaid gwyllt y corsydd,y gyr o deirw gyda'u lloi o bobl;sathra i lawr y rhai sy'n dyheu am arian,gwasgara'r bobl sy'n ymhyfrydu mewn rhyfel.
31. Bydded iddynt ddod â phres o'r Aifft;brysied Ethiopia i estyn ei dwylo at Dduw.
32. Canwch i Dduw, deyrnasoedd y ddaear;rhowch foliant i'r Arglwydd,Sela
33. i'r un sy'n marchogaeth yn y nefoedd, y nefoedd a fu erioed.Clywch! Y mae'n llefaru â'i lais nerthol.
34. Cydnabyddwch nerth Duw;y mae ei ogoniant uwchben Israela'i rym yn y ffurfafen.
35. Y mae Duw yn arswydus yn ei gysegr;y mae Duw Israel yn rhoi ynni a nerth i'w bobl.Bendigedig fyddo Duw.