3. Atat ti y daw pob un â'i gyffes o bechod:“Y mae ein troseddau'n drech na ni,ond yr wyt ti'n eu maddau.”
4. Gwyn ei fyd y sawl a ddewisi ac a ddygi'n agos,iddo gael preswylio yn dy gynteddau;digoner ninnau â daioni dy dŷ,dy deml sanctaidd.
5. Mewn gweithredoedd ofnadwy yr atebi ni â buddugoliaeth,O Dduw ein hiachawdwriaeth;ynot yr ymddiried holl gyrion y ddaeara phellafoedd y môr;
6. gosodi'r mynyddoedd yn eu lle â'th nerth,yr wyt wedi dy wregysu â chryfder;
7. yr wyt yn tawelu rhu'r moroedd,rhu eu tonnau,a therfysg pobloedd.
8. Y mae trigolion cyrion y bydyn ofni dy arwyddion;gwnei i diroedd bore a hwyr lawenhau.
9. Rwyt yn gofalu am y ddaear ac yn ei dyfrhau,gwnaethost hi'n doreithiog iawn;y mae afon Duw'n llawn o ddŵr;darperaist iddynt ŷd.Fel hyn yr wyt yn trefnu ar ei chyfer:
10. dyfrhau ei rhychau, gwastatáu ei chefnau,ei mwydo â chawodydd a bendithio'i chnwd.
11. Yr wyt yn coroni'r flwyddyn â'th ddaioni,ac y mae dy lwybrau'n diferu gan fraster.
12. Y mae porfeydd yr anialdir yn diferu,a'r bryniau wedi eu gwregysu â llawenydd;