1. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD.O ARGLWYDD fy Nuw, mawr iawn wyt ti;yr wyt wedi dy wisgo ag ysblander ac anrhydedd,
2. a'th orchuddio â goleuni fel mantell.Yr wyt yn taenu'r nefoedd fel pabell,
3. yn gosod tulathau dy balas ar y dyfroedd,yn cymryd y cymylau'n gerbyd,yn marchogaeth ar adenydd y gwynt,
4. yn gwneud y gwyntoedd yn negeswyr,a'r fflamau tân yn weision.
5. Gosodaist y ddaear ar ei sylfeini,fel na fydd yn symud byth bythoedd;
6. gwnaethost i'r dyfnder ei gorchuddio fel dilledyn,ac y mae dyfroedd yn sefyll goruwch y mynyddoedd.
7. Gan dy gerydd di fe ffoesant,gan sŵn dy daranau ciliasant draw,
8. a chodi dros fynyddoedd a disgyn i'r dyffrynnoedd,i'r lle a bennaist ti iddynt;
9. rhoist iddynt derfyn nad ydynt i'w groesi,rhag iddynt ddychwelyd a gorchuddio'r ddaear.
10. Yr wyt yn gwneud i ffynhonnau darddu mewn hafnau,yn gwneud iddynt lifo rhwng y mynyddoedd;
11. rhônt ddiod i holl fwystfilod y maes,a chaiff asynnod gwyllt eu disychedu;
12. y mae adar y nefoedd yn nythu yn eu hymyl,ac yn trydar ymysg y canghennau.