1. Gwylia dy droed pan fyddi'n mynd i dŷ Dduw. Y mae'n well nesáu i wrando nag offrymu aberth ffyliaid, oherwydd nid ydynt hwy'n gwybod eu bod yn gwneud drwg.
2. Paid â bod yn fyrbwyll â'th enau na bod ar frys o flaen Duw. Y mae Duw yn y nefoedd, ac yr wyt ti ar y ddaear, felly bydd yn fyr dy eiriau.
3. Yn wir, fe ddaw breuddwyd pan yw gorchwylion yn cynyddu, a siarad ffôl pan bentyrrir geiriau.
4. Pan wnei adduned i Dduw, paid ag oedi ei chyflawni, oherwydd nid yw ef yn ymhyfrydu mewn ffyliaid. Cyflawna di'r hyn yr wyt wedi ei addunedu.
5. Y mae'n well iti beidio ag addunedu na pheidio â chyflawni'r hyn yr wyt wedi ei addunedu.
6. Paid â gadael i'th enau dy arwain i bechu, a phaid â dweud o flaen y cennad, “Camgymeriad oedd hyn.” Pam y dylai Duw gasáu dy ymadrodd, a difa gwaith dy ddwylo?
7. Y mae llawer o freuddwydion ac amlder geiriau yn wagedd; ond ofna di Dduw.
8. Os gweli'r tlawd yn cael ei orthrymu, a bod rhai yn atal barn a chyfiawnder mewn talaith, paid â synnu at yr hyn sy'n digwydd; oherwydd y mae un uwch yn gwylio pob swyddog, a rhai uwch eto drostynt ill dau.
9. Y mae cynnyrch y tir i bawb; y mae'r brenin yn cael y tir sydd wedi ei drin.
10. Ni ddigonir yr ariangar ag arian, na'r un sy'n caru cyfoeth ag elw. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
11. Pan yw cyfoeth yn cynyddu, y mae'r rhai sy'n byw arno yn amlhau; a pha fudd sydd i'w berchennog ond edrych arno?
12. Y mae cwsg y gweithiwr yn felys, boed wedi bwyta ychydig neu lawer; ond y mae digonedd y cyfoethog yn ei rwystro rhag cysgu'n dawel.
13. Gwelais ddrwg poenus dan yr haul: cyfoeth wedi ei gadw yn peri niwed i'w berchennog,