5. bu farw Mahlon a Chilion ill dau; a gadawyd y wraig yn amddifad o'i dau blentyn yn ogystal ag o'i gŵr.
6. Penderfynodd hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith ddychwelyd o wlad Moab, oherwydd iddi glywed yno i'r ARGLWYDD ymweld â'i bobl a rhoi bwyd iddynt.
7. Gadawodd hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith y man lle'r oeddent, a chychwyn yn ôl am wlad Jwda.
8. Ac meddai Naomi wrth ei dwy ferch-yng-nghyfraith, “Ewch yn ôl adref, bob un at ei mam, y ddwy ohonoch; a bydded yr ARGLWYDD mor garedig wrthych chwi ag y buoch chwi wrth y rhai a fu farw ac wrthyf finnau,
9. a rhoi i'r ddwy ohonoch orffwysfa mewn cartref gyda gŵr.” Yna fe'u cusanodd, a dechreuodd y ddwy wylo'n uchel,
10. a dweud wrthi, “Ond yr ydym ni am ddychwelyd gyda thi at dy bobl.”
11. Dywedodd Naomi, “Ewch adref, fy merched. Pam y dewch gyda mi? A oes gennyf fi ragor o feibion yn fy nghroth, iddynt ddod yn wŷr i chwi?
12. Ewch yn ôl, fy merched, oherwydd yr wyf fi'n rhy hen i gael gŵr. Pe bawn i'n dweud bod gennyf obaith cael gŵr heno, ac yna geni plant,
13. a fyddech chwi'n disgwyl nes iddynt dyfu? A fyddech yn ymgadw rhag priodi? Na, fy merched; y mae'n llawer chwerwach i mi nag i chwi am fod llaw yr ARGLWYDD yn f'erbyn i.”
14. Wylodd y ddwy yn uchel eto; yna ffarweliodd Orpa â'i mam-yng-nghyfraith, ond glynodd Ruth wrthi.
15. A dywedodd Naomi, “Edrych, y mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a'i duw; dychwel dithau ar ei hôl.”