21. Purodd y Lefiaid eu hunain o'u pechod, a golchi eu dillad, a chyflwynodd Aaron hwy yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD, a gwnaeth gymod drostynt i'w glanhau.
22. Wedyn, aeth y Lefiaid i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod, a gweini ar Aaron a'i feibion. Gwnaethpwyd i'r Lefiaid fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
23. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
24. “Dyma'r drefn ynglŷn â'r Lefiaid: bydd y rhai sy'n bum mlwydd ar hugain a throsodd yn mynd i mewn i wneud y gwaith ym mhabell y cyfarfod;
25. ond yn hanner cant oed byddant yn gorffen gweithio ac yn peidio â'u gwasanaeth.
26. Cânt gynorthwyo'u brodyr i ofalu am babell y cyfarfod, ond y mae cyfnod eu gwasanaeth ar ben. Dyma a wnei ynglŷn â gorchwylion y Lefiaid.”