43. plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
44. dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
45. bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
46. bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
47. dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Eliasaff fab Reuel.
48. Ar y seithfed dydd, offrymodd Elisama fab Ammihud, arweinydd pobl Effraim, ei offrwm yntau:
49. plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
50. dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;