3. hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer y bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer yr hwrdd,
4. a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;
5. hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, i wneud cymod drosoch.
6. Y mae hyn yn ychwanegol at y poethoffrwm misol a'i fwydoffrwm, y poethoffrwm rheolaidd a'i fwydoffrwm, a'u diodoffrwm, yn ôl y ddeddf ar eu cyfer; byddant yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
7. “Ar y degfed dydd o'r seithfed mis hwn, yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd; yr ydych i ymddarostwng, a pheidio â gwneud dim gwaith.
8. Offrymwch boethoffrwm yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef un bustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd; gofalwch eu bod yn ddi-nam;
9. hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer y bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer yr hwrdd,
10. a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;
11. hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at yr aberth dros bechod er cymod, y poethoffrwm rheolaidd a'i fwydoffrwm, a'u diodoffrymau.
12. “Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd, a pheidio â gwneud dim gwaith arferol, ond cadwch ŵyl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod.