20. Atebodd yr ARGLWYDD, “Yr wyf wedi maddau iddynt, yn ôl dy ddymuniad;
21. ond yn awr, cyn wired â'm bod yn fyw a bod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r holl ddaear,
22. ni fydd yr un o'r rhai a welodd fy ngogoniant a'r arwyddion a wneuthum yn yr Aifft ac yn yr anialwch, ond a wrthododd wrando arnaf a'm profi y dengwaith hyn,
23. yn cael gweld y wlad y tyngais ei rhoi i'w hynafiaid; ac ni fydd neb o'r rhai a fu'n fy nilorni yn ei gweld ychwaith.
24. Ond y mae ysbryd gwahanol yn fy ngwas Caleb, ac am iddo fy nilyn yn llwyr, arweiniaf ef i'r wlad y bu eisoes i mewn ynddi, a bydd ei ddisgynyddion yn ei meddiannu.
25. Yn awr, am fod yr Amaleciaid a'r Canaaneaid yn byw yn y dyffryn, yr ydych i ddychwelyd yfory i'r anialwch a cherdded ar hyd ffordd y Môr Coch.”
26. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
27. “Am ba hyd y bydd y cynulliad drygionus hwn yn grwgnach yn f'erbyn? Yr wyf wedi clywed grwgnach pobl Israel yn f'erbyn;
28. felly dywed wrthynt: ‘Cyn wired â'm bod yn fyw,’ medd yr ARGLWYDD, ‘fe wnaf i chwi yr hyn a ddywedasoch yn fy nghlyw:
29. bydd pob un ugain oed a throsodd, a rifwyd yn y cyfrifiad ac sydd wedi grwgnach yn f'erbyn, yn syrthio'n farw yn yr anialwch hwn.
30. Ni chaiff yr un ohonoch ddod i mewn i'r wlad y tyngais lw y byddech yn byw ynddi, heblaw Caleb fab Jeffunne a Josua fab Nun.