58. Jala, Darcon, Gidel,
59. Seffateia, Hattil, Pochereth o Sebaim, ac Amon.
60. Cyfanswm gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon oedd tri chant naw deg a dau.
61. Daeth y rhai canlynol i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adon ac Immer, ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras:
62. teuluoedd Delaia, Tobeia a Necoda, chwe chant pedwar deg a dau.
63. Ac o blith yr offeiriaid: teuluoedd Hobaia, Cos a'r Barsilai a briododd un o ferched Barsilai o Gilead a chymryd ei enw.
64. Chwiliodd y rhain am gofnod o'u hachau, ond methu ei gael; felly cawsant eu hatal o'r offeiriadaeth,
65. a gwaharddodd y llywodraethwr iddynt fwyta'r pethau mwyaf cysegredig nes y ceid offeiriad i ymgynghori â'r Wrim a'r Twmim.
66. Nifer y fintai gyfan oedd pedwar deg dwy o filoedd tri chant chwe deg,
67. heblaw eu gweision a'u morynion a oedd yn saith mil tri chant tri deg a saith. Yr oedd ganddynt hefyd ddau gant pedwar deg a phump o gantorion a chantoresau,
68. saith gant tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump o fulod,
69. pedwar cant tri deg a phump o gamelod, a chwe mil saith gant dau ddeg o asynnod.