6. Taflaf fudreddi drosot,gwaradwyddaf di a'th wneud yn sioe.
7. Yna bydd pob un a'th wêl yn cilio oddi wrthyt ac yn dweud,‘Difethwyd Ninefe, pwy a gydymdeimla â hi?’O ble y ceisiaf rai i'th gysuro?”
8. A wyt yn well na Thebes,sydd ar lannau'r Neil,gyda dŵr o'i hamgylch,y môr yn fur,a'r lli yn wrthglawdd iddi?
9. Ethiopia oedd ei chadernid,a'r Aifft hefyd, a hynny'n ddihysbydd;Put a Libya oedd ei chymorth.
10. Ond dygwyd hithau ymaith a'i chaethgludo;drylliwyd ei phlantos ar ben pob heol;bwriwyd coelbren am ei huchelwyr,a rhwymwyd ei mawrion â chadwynau.
11. Byddi dithau hefyd yn chwil a chuddiedig,ac yn ceisio noddfa rhag y gelyn.
12. Bydd dy holl amddiffynfeydd fel coed ffigysgyda'u ffigys cynnar aeddfed;pan ysgydwir hwy, syrthiant i geg y bwytawr.
13. Wele, gwragedd yw dy filwyr yn dy ganol,y mae pyrth dy wlad yn agored i'th elynion,a thân wedi ysu eu barrau.
14. Tyn ddŵr ar gyfer gwarchae,cryfha dy amddiffynfeydd;dos at y clai,sathra'r pridd,moldia briddfeini.
15. Er hynny, cei dy ddifa gan dân,fe'th dorrir ymaith â'r cleddyf,ac fe'th ysir fel gan locust.Lluosoga fel y locust,lluosoga fel y sbonciwr,haid sy'n ymledu ac yn hedfan ymaith.
16. Y mae dy farsiandïwyryn lluosocach na sêr y nefoedd,
17. dy dywysogion fel locustiaid,dy gapteiniaid fel cwmwl o sboncwyr—ymsefydlant ar y muriau ar ddiwrnod oer,ond pan gyfyd yr haul ehedant ymaith,ac ni ŵyr neb ble maent.
18. Cysgu y mae dy fugeiliaid, O frenin Asyria,a'th arweinwyr yn gorffwyso;gwasgarwyd dy luoedd hyd y mynyddoedd,heb neb i'w casglu.
19. Ni ellir lliniaru dy glwyf;y mae dy archoll yn ddwfn.Bydd pob un a glyw'r newydd amdanatyn curo'i ddwylo o'th blegid.A oes rhywun nad yw wedi dioddef oddi wrth dy ddrygioni diddiwedd?