6. “Am hynny, gwnaf Samaria yn garnedd ar faes agored,yn lle i blannu gwinwydd;gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn,a dinoethaf ei sylfeini.
7. Malurir ei holl gerfddelwau,llosgir ei holl enillion yn y tân,a gwnaf ddifrod o'i delwau;o enillion puteindra y casglodd hwy,ac yn dâl puteindra y dychwelant.”
8. Am hyn y galaraf ac yr wylaf,a mynd yn noeth a heb esgidiau;galarnadaf fel y siacal,a llefain fel tylluanod yr anialwch,
9. am nad oes meddyginiaeth i'w chlwyf;oherwydd daeth hyd at Jwda,a chyrraedd at borth fy mhobl,hyd at Jerwsalem.
10. Peidiwch â chyhoeddi'r peth yn Gath,a pheidiwch ag wylo yn Baca;yn Beth-affra ymdreiglwch yn y llwch.
11. Ewch ymlaen, drigolion Saffir;onid mewn noethni a chywilyddyr â trigolion Saanan allan?Galar sydd yn Beth-esel,a pheidiodd â bod yn gynhaliaeth i chwi.
12. Mewn gwewyr am newydd da y mae trigolion Maroth,oherwydd i ddrygioni oddi wrth yr ARGLWYDDddod hyd at borth Jerwsalem.
13. Harneisiwch y meirch wrth y cerbydau,drigolion Lachis;chwi oedd cychwyn pechod i ferch Seion,ac ynoch chwi y caed troseddau Israel.
14. Felly, rhodder anrheg ymadael i Moreseth-gath;y mae Beth-achsib yn dwyllodrus i frenhinoedd Israel.
15. Dygaf eto yr anrheithiwr at bobl Maresa,a bydd gogoniant Israel yn mynd i Adulam.
16. Eillia dy ben a gwna dy hun yn foel,am y plant a hoffaist;gwna dy hun yn foel fel eryr,am iddynt fynd oddi wrthyt i gaethglud.