5. Cewch weld hyn â'ch llygaid eich hunain a dweud, “Y mae'r ARGLWYDD yn fawr hyd yn oed y tu allan i Israel.”
6. “Y mae mab yn anrhydeddu ei dad, a gwas ei feistr. Os wyf fi'n dad, ple mae f'anrhydedd? Os wyf yn feistr, ple mae fy mharch?” medd ARGLWYDD y Lluoedd wrthych chwi'r offeiriaid, sy'n dirmygu ei enw. A dywedwch, “Sut y bu inni ddirmygu dy enw?”
7. “Wrth offrymu bwyd halogedig ar fy allor.” A dywedwch, “Sut y bu inni ei halogi?” “Wrth feddwl y gellir dirmygu bwrdd yr ARGLWYDD,
8. a thybio, pan fyddwch yn offrymu anifeiliaid dall yn aberth, nad yw hynny'n ddrwg, a phan fyddwch yn offrymu rhai cloff neu glaf, nad yw hynny'n ddrwg. Pe dygech hyn i lywodraethwr y wlad, a fyddai ef yn fodlon ac yn dangos ffafr atoch?” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
9. “Yn awr, ceisiwch ffafr Duw, er mwyn iddo drugarhau wrthym; a'r fath rodd gennych, a ddengys ef ffafr atoch?” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
10. “O na fyddai rhywun o'ch plith yn cloi'r drysau, rhag i chwi aberthu'n ofer ar fy allor! Nid wyf yn fodlon o gwbl arnoch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “ac ni dderbyniaf offrwm gennych.
11. Oherwydd y mae f'enw yn fawr ymysg y cenhedloedd o'r dwyrain i'r gorllewin, ac ym mhob man offrymir arogldarth ac offrwm pur i'm henw; oherwydd mawr yw f'enw ymysg y cenhedloedd,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
12. “Ond yr ydych chwi yn ei halogi wrth feddwl y gallwch ddifwyno bwrdd yr ARGLWYDD â bwyd gwrthodedig.
13. Wrth ei arogli, fe ddywedwch, ‘Mor atgas yw!’ ” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “Os dygwch anifeiliaid anafus, cloff neu glaf, a'u cyflwyno'n offrwm, a dderbyniaf hwy gennych?” medd yr ARGLWYDD.
14. “Melltith ar y twyllwr sy'n addunedu hwrdd o'i braidd, ond sy'n aberthu i'r Arglwydd un â nam arno; oherwydd brenin mawr wyf fi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “a'm henw'n ofnadwy ymhlith y cenhedloedd.”