7. Bydd meibion Aaron yr offeiriad yn gosod tân ar yr allor ac yn trefnu'r coed ar y tân.
8. Yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn trefnu'r darnau, yn cynnwys y pen a'r braster, ar y coed sy'n llosgi ar yr allor.
9. Y mae i olchi'r ymysgaroedd a'r coesau â dŵr, a bydd yr offeiriad yn llosgi'r cyfan ohono ar yr allor yn boethoffrwm, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
10. “ ‘Os poethoffrwm o'r praidd fydd ei rodd, boed o'r defaid neu o'r geifr, dylai ddod â gwryw di-nam.
11. Y mae i'w ladd ar ochr y gogledd i'r allor o flaen yr ARGLWYDD, a bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn lluchio'i waed ar bob ochr i'r allor.
12. Y mae i'w dorri'n ddarnau, yn cynnwys y pen a'r braster, a bydd yr offeiriad yn eu trefnu ar y coed sy'n llosgi ar yr allor.
13. Y mae i olchi'r ymysgaroedd a'r coesau â dŵr, a bydd yr offeiriad yn dod â'r cyfan ac yn ei losgi ar yr allor yn boethoffrwm, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
14. “ ‘Os poethoffrwm o adar fydd ei rodd i'r ARGLWYDD, dylai ddod â thurtur neu gyw colomen.
15. Y mae'r offeiriad i ddod ag ef at yr allor a thorri ei ben, a'i losgi ar yr allor; bydd yn gwasgu allan ei waed ar ochr yr allor,
16. yn tynnu ei grombil a'i blu, ac yn eu lluchio yn ymyl yr allor i'r dwyrain, lle mae'r lludw;
17. bydd yn ei agor allan gerfydd ei adenydd, ond heb ei ddarnio; yna bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, ar y coed sy'n llosgi, yn boethoffrwm, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.