18. Hefyd gyrrodd yr ARGLWYDD allan o'n blaen yr holl bobloedd a'r Amoriaid oedd yn y wlad. Yr ydym ninnau hefyd am wasanaethu'r ARGLWYDD, oherwydd ef yw ein Duw.”
19. Ond dywedodd Josua wrth y bobl, “Ni fedrwch wasanaethu'r ARGLWYDD, oherwydd y mae'n Dduw sanctaidd, ac yn Dduw eiddigus, ac ni fydd yn maddau eich troseddau a'ch pechodau.
20. Os gadewch yr ARGLWYDD a gwasanaethu duwiau estron, bydd yn troi ac yn gwneud niwed i chwi ac yn eich difodi, er yr holl dda a wnaeth i chwi.”
21. Dywedodd y bobl wrth Josua, “Na, yr ydym am wasanaethu'r ARGLWYDD.”
22. Yna dywedodd Josua wrth y bobl, “Yr ydych yn dystion yn eich erbyn eich hunain i chwi ddewis gwasanaethu'r ARGLWYDD.” Atebasant hwythau, “Tystion ydym.”
23. “Yn awr ynteu,” meddai, “bwriwch allan y duwiau estron sydd yn eich mysg, a throwch eich calon at yr ARGLWYDD, Duw Israel.”
24. Dywedodd y bobl wrth Josua, “Fe addolwn yr ARGLWYDD ein Duw, a gwrandawn ar ei lais ef.”
25. Gwnaeth Josua gyfamod â'r bobl y diwrnod hwnnw yn Sichem, a gosod deddf a chyfraith ar eu cyfer.
26. Ysgrifennodd y geiriau hynny yn llyfr cyfraith Duw, a chymryd maen mawr a'i osod i fyny yno o dan dderwen oedd yng nghysegr yr ARGLWYDD.