40. Disgynnodd y seithfed coelbren i lwyth Dan yn ôl eu tylwythau.
41. Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Sora, Estaol, Ir-semes,
42. Saalabbin, Ajalon, Ithla,
43. Elon, Timna, Ecron,
44. Eltece, Gibbethon, Baalath,
45. Jehud, Bene-berac, Gath-rimmon,
46. Meiarcon, a Raccon, a hefyd y tir gyferbyn â Jopa.
47. Pan gollodd y Daniaid eu tiriogaeth, aethant i fyny ac ymladd yn erbyn Lesem a'i chipio; trawsant hi â min cleddyf, a'i meddiannu ac ymsefydlu yno, gan alw Lesem yn Dan ar ôl eu tad.
48. Dyma etifeddiaeth llwyth Dan yn ôl eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
49. Wedi iddynt orffen rhannu'r wlad yn ôl ei therfynau, rhoddodd yr Israeliaid etifeddiaeth yn eu mysg i Josua fab Nun.
50. Yn unol â gorchymyn yr ARGLWYDD, rhoesant iddo'r ddinas y gofynnodd amdani, sef Timnath-sera ym mynydd-dir Effraim; ac wedi iddo'i hailadeiladu, bu fyw yno.
51. Dyma'r etifeddiaethau a rannodd yr offeiriad Eleasar, a Josua fab Nun a'r pennau-teuluoedd, trwy goelbren, i lwythau Israel yn Seilo gerbron yr ARGLWYDD, yn nrws pabell y cyfarfod. A gorffenasant rannu'r wlad.