17. os bwyteais fy mwyd ar fy mhen fy hun,a gwrthod ei rannu â'r amddifad—
18. yn wir bûm fel tad yn ei fagu o'i ieuenctid,ac yn ei arwain o adeg ei eni—
19. os gwelais grwydryn heb ddillad,neu dlotyn heb wisg,
20. a'i lwynau heb fy mendithioam na chynheswyd ef gan gnu fy ŵyn;
21. os codais fy llaw yn erbyn yr amddifadam fy mod yn gweld cefnogaeth imi yn y porth;
22. yna disgynned f'ysgwydd o'i lle,a thorrer fy mraich o'i chyswllt.
23. Yn wir y mae ofn dinistr Duw arnaf,ac ni allaf wynebu ei fawredd.
24. “Os rhoddais fy hyder ar aur,a meddwl am ddiogelwch mewn aur coeth;
25. os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr,a bod cymaint yn fy meddiant;
26. os edrychais ar yr haul yn tywynnu,a'r lleuad tra parhâi'n ddisglair,
27. ac os cafodd fy nghalon ei hudo'n ddirgel,a chusanu fy llaw mewn gwrogaeth;
28. byddai hyn hefyd yn drosedd i'm barnwr,oherwydd imi wadu Duw uchod.
29. “A lawenychais am drychineb fy ngelyn,ac ymffrostio pan ddaeth drwg arno?